Cwest Breuddwyd Myrddin
About
Cymraeg CA2: Ap sy'n defnyddio chwedlau Cymru i ddatblygu sgiliau iaith a llythrennedd yng nghyfnod allweddol 2.
Ap hwyliog a gwahanol sy'n ymestyn a datblygu sgiliau iaith a llythrennedd disgyblion Cymraeg iaith gyntaf yng nghyfnod allweddol 2 drwy ddysgu am chwedlau Cymru. Mae'r gemau'n seiliedig ar 13 chwedl o 13 rhan o Gymru, o Wrachod Llanddona i Dwmbarlwm, gyda'r nod o helpu'r Dewin Myrddin i gwblhau pob cwest. Mae'n cynnwys dwy haen ieithyddol.